HenryMORRISMORRIS Dymuna plant y diweddar Henry Thomas (Harry), gynt o Islwyn, 4 Tregarn, Pencaenewydd ddatgan eu gwerthfawrogiad o bob cymwynas a charedigrwydd a dderbyniwyd yn dilyn marwolaeth disymwth eu tad ar drothwy ei ben-blwydd yn 89 oed. Diolch am y llu cardiau, llythyrau, blodau, cacennau ac ati, y rhoddion ariannol er cof amdano ac i bawb ddaeth i'r angladd ym Mynwent Chwilog. Diolch arbennig i'r Parchedig R. E. Hughes am ei wasanaeth twymgalon yn y ty ac ar lan y bedd. Hefyd i Glyn, Sulwen a'r genod am eu ffyddlondeb ac am helpu gyda'r te. Yn olaf, diolchir i'r ymgymerwr Mr. E. W. Pritchard, Morfa Nefyn am drefniadau taclus a chartrefol. Trosglwyddir £540 i gronfa Ambiwlans Awyr Cymru. Thank you all for everything.
Keep me informed of updates